Cefnogi Dioddefwyr Troseddau

Cefnogi Dioddefwyr Troseddau

Mae YPC yn cefnogi dioddefwyr troseddau mewn amryw o ffyrdd.

Mae cyfrifoldeb statudol ar YPC i gysylltu â dioddefwyr troseddau rhyw neu droseddau treisiol (os yw’r troseddwr wedi’i ddedfrydu i 12 mis neu fwy). Rhoddir gwybodaeth gyffredinol i’r troseddwyr am yr hyn fydd yn digwydd i’r troseddwr yn ystod y ddedfryd o garchar.

Mae’n bwysig sylweddoli bod dioddefwyr yn gallu dweud eu barn a lleisio eu pryderon am ryddhau’r troseddwr a chaiff y rhain eu trosglwyddo i’r rhai sy’n penderfynu ar drefniadau rhyddhau troseddwyr. Bydd hyn yn dylanwadu ar y mathau o amodau a roddir ar droseddwr pan gaiff ei ryddhau, er enghraifft, gall gynnwys amodau i gadw draw oddi wrth y troseddwr a’i gartref.

Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn gweithio gyda throseddwyr i wneud iddynt ddeall effaith eu troseddau ar eu dioddefwyr, a’r effaith y byddant yn parhau i’w chael, o bosib.