Ni yw’r bedwaredd Ymddiriedolaeth Prawf fwyaf yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn cyflogi dros 1,050 o staff cyfwerth â llawn amser sy’n gweithio’n bennaf yn ein deg Uned Ddarparu Leol (LDU).
Caiff pob LDU ei rheoli gan Brif Swyddog Cynorthwyol ac mae’r deg ohonynt i gyd yn gweithio’n agos gyda’r 22 Awdurdod Lleol a’u Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, yr Awdurdodau Iechyd a’r saith Bwrdd Cynllunio Ardal. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid ym maes cyfiawnder troseddol yng Ngwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi, Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr heddlu, y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol, y pedwar carchar yng Nghymru a’r 18 Tîm Troseddau Ieuenctid. Rydym yn paratoi dros 15,000 o adroddiadau i’r deg Llys y Goron a’r 30 Llys Ynadon yng Nghymru bob blwyddyn; ac rydym yn goruchwylio mwy na 15,000 o droseddwyr ar orchmynion Llys yn y gymuned.
