Rhaglenni Talu Yn Ôl I’r Gymuned Yng Nghymru

Ymddiriedolaeth Prawf Cymru yw’r awdurdod sy’n gyfrifol am reoli’r rhaglenni Talu yn ôl i’r Gymuned ledled Cymru.

Rhwng Ebrill – Gorffennaf 2011 cafodd 2,537 o droseddwyr eu rhoi ar orchmynion dedfrydu Talu yn ôl i’r Gymuned gan gyflenwi 299,382 o oriau o waith.

Yn ystod blwyddyn galendr 2010, goruchwyliodd Prawf Cymru cyflenwi tua 700,000 o oriau o ddedfrydau Talu yn ôl i’r Gymuned.

Dywedodd Sarah Payne, Prif Weithredwr Prawf Cymru, “Mae dedfrydau Talu yn ôl i’r Gymuned ar draws Cymru yn un o gydrannau cyflenwi allweddol Prawf Cymru. Ein nod yw cynyddu adferiad dioddefwyr ac rydym bob amser yn croesawu ceisiadau ar gyfer rhaglenni gwaith Talu yn ôl i’r Gymuned drwy ein gwefan www.walesprobationtrust.gov.uk.”

Posted in Newyddion |