Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, wedi cymeradwyo penodi tri aelod Bwrdd newydd o Fwrdd Ymddiriedolaeth Prawf Cymru. Bydd y Troseddegwr yr Athro Mike Maguire a’r bobl busnes proffesiynol Angela Gascoigne a Stephen Davies yn dod â’u harbenigedd a’u gwybodaeth i wella cyflenwi’r gwasanaeth prawf ar draws Cymru.
Mae’r Athro Maguire yn gweithio’n rhan amser ym Mhrifysgol Morgannwg ac mae’n Athro Emeritws ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru. Mae wedi ymchwilio ac ysgrifennu ar amryw o bynciau sy’n ymwneud â throseddu a chyfiawnder, gan gynnwys plismona, lleihau troseddu, adsefydlu ac ailsefydlu carcharorion, ac ystadegau troseddu. Ef yw cyd-olygydd yr Oxford Handbook of Criminology (mae’r 5ed argraffiad ar y gweill). Mae hefyd yn aelod o Banel Achredu Gwasanaethau Cywirol Cymru a Lloegr, ac mae’n gyn-aelod o’r Bwrdd Parôl. Dywedodd yr Athro Maguire:
“Mae fy ngwaith proffesiynol yn aml wedi dod â mi i gysylltiad â’r Gwasanaeth Prawf felly rwy’n gwerthfawrogi cymhlethdod y gwaith y mae’n ei wneud a’i botensial i newid bywydau. Dylid gwneud pob ymdrech i helpu pobl ifanc rhag llithro i mewn droseddu yn y lle cyntaf, ond mae yr un mor bwysig i ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i adsefydlu’r rhai sydd wedi troseddu. Mae sgiliau swyddogion prawf, gan weithio’n agos gydag asiantaethau eraill, yn hanfodol yn y broses hon.”
Mae Angela Gascoigne, gyda gyrfa o 30 mlynedd yn y sector tai a chyfarwyddwr gweithredol nifer o sefydliadau rhanbarthol sy’n gweithio mewn amgylcheddau rhanddeiliaid cymhleth, wedi arwain ar newid diwylliant, cyflawni rhagoriaeth, arloesi a gwella gwasanaethau. Dywedodd Mrs Gascoigne, o Gaerdydd:
“Mae fy ngwaith proffesiynol wedi dod â mi i gysylltiad â’r Gwasanaeth Prawf felly mae gen i ddealltwriaeth o gymhlethdod y gwaith y mae’r gwasanaeth prawf yn ei wneud a’i botensial i newid bywydau. Rwy’n frwd dros wasanaeth cyhoeddus ac oherwydd hyn rwy’n teimlo’n frwd dros yr angen i drawsnewid tra’n cynnal gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus – anhunanoldeb, integriti ac atebolrwydd.”
Bu gan y trydydd aelod o’r Bwrdd i’w benodi, Stephen Davies, o Bort Talbot, ddiddordeb ers tro mewn adsefydlu troseddwyr. Cred Mr Davies, sydd yn rheolwr gyfarwyddwr ar y ddistyllfa leol ac yn aelod o’r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi, y gall ddefnyddio ei wybodaeth fusnes i wella’r ffordd y caiff gwasanaethau prawf eu darparu yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae Sue Fox, Cadeirydd Prawf Cymru wedi ategu’r ymagwedd hon a dywedodd:
“Rwy’n croesawu’r profiad a’r wybodaeth y bydd y tri aelod newydd o’r Bwrdd yn eu rhoi i Prawf Cymru. Ein rôl allweddol yw cyflenwi gwasanaethau rheng flaen yn effeithiol wrth gysylltu â chymunedau lleol ar draws Cymru. Er bod sicrhau gorchmynion y llys pan fydd unigolyn yn cael ei ddedfrydu yn hanfodol,mae gweithio i atal aildroseddu o fudd i’r gymuned a chymdeithas gyfan. Bydd yn gwneud ein cymunedau yn lleoedd gwell a mwy diogel i fyw ynddynt. Bydd helpu troseddwyr i newid eu hymddygiad, a’u gwneud yn aelodau cynhyrchiol o’r gymuned yn golygu llai o droseddau a llai o ddioddefwyr.”
Nodiadau i Olygyddion
1. Caiff gwasanaethau prawf eu darparu gan 35 o Ymddiriedolaethau Prawf ledled Cymru a Lloegr, sy’n cael cyllid gan y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS), ac maent yn atebol i’r gwasanaeth hwnnw am eu perfformiad a’r modd y maent yn cyflenwi eu gwaith.
Galluogodd Deddf Rheoli Troseddwyr 2007 y pedair Ardal / Ymddiriedolaeth Prawf blaenorol yng Nghymru i ffurfio Ymddiriedolaeth Prawf Cymru ym mis Ebrill 2010.
Prawf Cymru yw un o’r Ymddiriedolaethau Prawf mwyaf yng Nghymru a Lloegr, gan gyflogi dros 1,050 o staff cyfwerth ag amser llawn sydd wedi’u lleoli mewn deg Uned Gyflenwi Leol.
Mae pob Uned Gyflenwi Leol yn cael ei rheoli gan Brif Weithredwr Cynorthwyol ac mae pob un o’r deg yn gweithio’n agos gyda’r 22 Awdurdod Lleol a’u Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, Awdurdodau Iechyd a saith Bwrdd Cynllunio Ardal. Mae Prawf Cymru hefyd yn gweithio’n agos gyda’i phartneriaid cyfiawnder troseddol yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr heddlu, y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol, y pedwar carchar yng Nghymru a’r 18 Tîm Troseddu Ieuenctid.
Mae Prawf Cymru yn paratoi dros 15,000 o adroddiadau cyn-dedfrydu y flwyddyn ar gyfer y deg Llys y Goron a’r 30 o Lysoedd Ynadon yng Nghymru er mwyn galluogi’r llysoedd i ddewis y ddedfryd fwyaf priodol yn ogystal â goruchwylio dros 15,000 o droseddwyr ar unrhyw un adeg. Rydym hefyd yn gweithio gyda dioddefwyr troseddau lle mae’r troseddwr wedi cyflawni trosedd rywiol neu dreisgar ac wedi cael dedfryd o garchar o 12 mis neu fwy.
Mae Prawf Cymru hefyd yn rheoli safleoedd cymeradwy ar gyfer troseddwyr sydd â gofyniad preswylio ar eu dedfrydau neu eu trwyddedau ac mae rhai o’n staff hefyd yn gweithio mewn carchardai, asesu troseddwyr, eu paratoi ar gyfer eu rhyddhau a chynnal rhaglenni ymddygiad troseddol.
Ewch i’n gwefan i ddarganfod mwy am waith Prawf Cymru:
http://www.walesprobationtrust.gov.uk/