Cymunedau a Phartneriaid Lleol

Cymunedau a Phartneriaid LleolNi ellir lleihau trosedd ac amddiffyn y cyhoedd heb i asiantaethau cyfiawnder troseddol a chymunedau lleol fod yn gweithio mewn partneriaeth.

Mae YPC wedi ymrwymo i weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau i gyflawni ei hamcanion. Felly mae’r Ardal yn gweithio mewn partneriaeth â’r Llysoedd, yr Heddlu, y Carchardai ac Awdurdodau Lleol, Timau Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau, sefydliadau tai a chynghori. Mae hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag amryw o fudiadau gwirfoddol neu elusennol.

Mae’r holl sefydliadau hyn yn cyfrannu at sefydlu cynlluniau, gwasanaethau a chamau i sicrhau bod y dioddefwyr a’r gymuned yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw risg o du’r troseddwyr sy’n byw yn y gymuned ac yn cyfrannu at newid ymddygiad troseddwyr fel nad ydynt yn aildroseddu.