Cyhoeddiad cynllun peilot arbennig

Cymru yn cael ei dewis i Arwain y DU yn y maes Prawf

Mae Ymddiriedolaeth Prawf Cymru wedi cael ei dewis gan lywodraeth y DU i weithredu cynllun peilot arbennig gyda’r nod o wneud mwy o gynnydd wrth geisio lleihau aildroseddu.

Roedd Prawf Cymru yn un o 35 ymddiriedolaeth prawf ledled Cymru a Lloegr a wahoddwyd i gystadlu er mwyn gweithredu dau gynllun peilot Talu yn ôl Canlyniadau, a gynlluniwyd i wella cyflenwi gwasanaethau prawf yn ogystal â sicrhau gostyngiad pellach mewn cyfraddau aildroseddu a chynyddu diogelwch cymunedol.

Mae Talu yn ôl Canlyniadau yn cynnig dull radical newydd o reoli ac adsefydlu troseddwyr, gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn talu yn unig am yr hyn sy’n gweithio wrth gyflawni lefelau is o droseddu. Bwriad Prawf Cymru yw cyflenwi cynllun newydd arloesol, ar sail cydweithio gyda phartneriaid ledled Cymru er mwyn lleihau aildroseddu.

Dywedodd Crispin Blunt AS, y Gweinidog dros Garchardai a’r Gwasanaeth Prawf:

“Rwyf wrth fy modd gyda brwdfrydedd yr Ymddiriedolaethau Prawf wrth  helpu i ddatblygu ein polisi Talu yn ôl Canlyniadau.

“Bydd y cynlluniau peilot arloesol hyn yn profi am y tro cyntaf sut y gall rhyddid gwirioneddol i arloesi, ochr yn ochr â phartneriaethau cryf gyda’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, ysgogi gostyngiadau sylweddol mewn aildroseddu gan y rhai sydd wedi cael dedfryd gymunedol”.

Dywedodd Sarah Payne, Prif Weithredwr Prawf Cymru:

“Mae cael y cyfle i gyflenwi’r cynllun peilot arbennig yma yn anrhydedd fawr. Rydym wedi seilio ein cais ar dros 100 mlynedd o brofiad ein staff penodedig a galwedigaethol sydd am gyflawni gwelliannau go iawn i fywydau troseddwyr, eu dioddefwyr a’r gymuned ehangach ar draws Cymru.

Mae Prawf Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda holl wasanaethau datganoledig Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol ledled Cymru er mwyn gwella diogelwch mewn cymunedau lleol. Bydd ein cynllun yn ffenest siop i Gymru, ac rydym yn falch iawn o gael y cyfle i wella effeithiolrwydd cyflenwi gwasanaethau prawf a sicrhau cynnydd gwirioneddol a fydd yn fuddiol i bawb.”

 

 

Posted in Newyddion |