Amrywiaeth a Chydraddoldeb

Amrywiaeth a Chydraddoldeb

Mae gan Ymddiriedolaeth Prawf Cymru ymrwymiad hirsefydlog i Amrywiaeth. Mae ganddi amryw o bolisïau sy’n adlewyrchu arfer da yn seiliedig ar egwyddorion cydraddoldeb.

Mae sicrhau bod cydraddoldeb wrth wraidd ein holl waith yn ganolog i’n gwerthoedd fel sefydliad wrth i ni barhau i hyrwyddo tegwch, urddas a pharch.

Y Prif Weithredwr sy’n bennaf gyfrifol am Gydraddoldeb ac Amrywiaeth a bydd yn parhau i sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn dal i ganolbwyntio ar gyflwyno gwasanaeth sy’n hygyrch i bawb ac sy’n datblygu diwylliant yn y gweithle sy’n gwerthfawrogi ac yn croesawu amrywiaeth.

Mae Adroddiad Gwybodaeth am Gydraddoldeb 2011 – 2012 Prawf Cymru wedi cael ei greu yn dilyn dyletswyddau sy’n benodol i’r Ddeddf Cydraddoldeb a ddaeth i rym ar 10fed Medi 2011. Mae’r dyletswyddau hyn yn gofyn i gyrff cyhoeddus gyhoeddi gwybodaeth briodol berthnasol sy’n dangos eu bod yn cydymffurfio â’r ddyletswydd.  Byddem yn gwerthfawrogi adborth ynglŷn â’r wybodaeth a gyflwynir yn yr adroddiad hwn gan bawb sydd â diddordeb, gan gynnwys staff, rhanddeiliaid, grwpiau gwirfoddol a sefydliadau statudol. Bydd yr adborth yn cynorthwyo Prawf Cymru i ganfod a llenwi bylchau yn yr wybodaeth, a bydd hefyd yn helpu i ddatblygu ein hamcanion cydraddoldeb.

pdf GWYBODAETH CYDRADDOLDEB 2011 - 2012

Mae’n rhaid i Prawf Cymru yn unol â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (dyletswyddau penodol) 2011 wneud y canlynol:

  • Cyhoeddi gwybodaeth gymesur, berthnasol sy’n arddangos ystyriaeth briodol a chydymffurfiad â’r Ddyletswydd Cydraddoldeb erbyn 31ain Ionawr 2012 ac yna o leiaf bob blwyddyn wedi hynny.
  • Paratoi a chyhoeddi un neu fwy o amcanion y mae angen eu cyflawni i hyrwyddo unrhyw un o amcanion y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol, erbyn 6 Ebrill 2012 ac o leiaf bob pedair blynedd wedi hynny.
  • Sicrhau bod amcanion yn benodol ac yn fesuradwy.
  • Cyhoeddi amcanion yn y fath fodd fel eu bod yn hygyrch i’r cyhoedd.

Mae Prawf Cymru yn gwerthfawrogi adborth ar yr Adroddiadau Cydraddoldeb gan bawb sydd â diddordeb, gan gynnwys staff, rhanddeiliaid, grwpiau gwirfoddol a sefydliadau statudol. Bydd yr adborth yn cynorthwyo Prawf Cymru i adnabod a llenwi bylchau mewn gwybodaeth a bydd hefyd yn cynorthwyo datblygu amcanion cydraddoldeb pellach.

 
Am fformatau hygyrch eraill neu unrhyw wybodaeth bellach am Adroddiad Gwybodaeth Cydraddoldeb 2011 – 2012 neu Adroddiad Amcanion Cydraddoldeb 2012 -2013, cysylltwch â Sheila Bertram, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Prawf Cymru, Ffôn 029 2078 5092

(e-bost sheila.bertram@wales.probation.gsi.gov.uk )

pdf AMCANION CYDRADDOLDEB 2012-2013

pdf AMCANION CYDRADDOLDEB 2012-2013

 

Cynllun Iaith Gymraeg

Mae Ymddiriedolaeth Prawf Cymru wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd wrth gynnal busnes gyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru, yn trin yr Iaith Gymraeg a’r Iaith Saesneg yn gyfartal. Mae’r Cynllun yn nodi sut y bydd yr Ymddiriedolaeth yn gweithredu’r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru.

Derbyniodd ein Cynllun Iaith gymeradwyaeth  Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar y 12fed o Orffennaf 2011. Fe lansiwyd y Cynllun yn swyddogol yn Eisteddfod Genedlaethol  Wrecsam ar yr 2il o Awst 2011.

Am wybodaeth bellach ynglŷn â’r Cynllun cysylltwch â Lucie Owen, Cydlynydd Iaith Gymraeg Prawf Cymru ( e-bost lucie.owen@wales.probation.gsi.gov.uk   Tel 01492 530600