Mae troseddwyr wedi bod wrthi’n trwsio casgliad lliwgar o gorachod gardd er mwyn dod â gwên i wynebau’r rhai sy’n defnyddio Tŷ Laura, canolfan yn Abertawe sy’n cynnig gwyliau byr i blant sydd â phroblemau ymddygiad ac anawsterau dysgu…
Roedd angen ailaddurno llawer o’r adeilad, ond nid oedd arian ar gael i dalu am y gwaith. Fel llywodraethwr ysgol yng Nghastell-nedd, roedd y rheolwr cynorthwyol, Alice Williams, wedi gweld y gwaith di-dâl roedd troseddwyr yn ei gyflawni fel rhan o’u dedfrydau ad-dalu cymuned ac meddai:
“Wnes i ddim meddwl dwywaith cyn cysylltu â’r gwasanaeth prawf i edrych ar y prosiect yn Nhŷ Laura.”
Meddai Gill Dilley, Rheolwr y ganolfan:
“Aeth y gwasanaeth prawf ati i ail-baentio tu mewn y ganolfan a rhai o’r waliau allanol ac roeddem mor ddiolchgar gan fod cyfyngiadau ariannol yn ein hatal rhag gwneud y gwaith yma. Roedd angen dirfawr amdano er mwyn cadw’r tŷ yn edrych yn dda i’r plant sy’n dod yma am wyliau byr. Roedd y gwaith terfynol cystal ag y byddai unrhyw gwmni proffesiynol wedi’i wneud. Ar ôl gorffen y gwaith yma, dyma ofyn iddyn nhw roi ychydig o sylw ychwanegol i’r gerddi…”
Wrth dorri’r gwair a thacluso yn y ganolfan cyn iddi ddathlu ei 10fed pen-blwydd, daethant o hyd i amryw o gorachod gardd wedi torri a daflwyd o’r neilltu. Penderfynodd y goruchwylwyr oedd yn rheoli’r timau, Nathan Stock ac Ian Hall, adnewyddu’r corachod a hen dŷ chwarae oedd yn debycach i bentwr o hen goed nag offer chwarae pwrpasol.
Meddai Simon Morse-Jones, Swyddog Lleoliad:
“Cymerodd y troseddwyr fu’n gweithio ar y prosiect yma a’u goruchwylwyr ofal mawr wrth helpu’r ganolfan, gan ddefnyddio paent wedi’i ailgylchu ac atgyweirio’r corachod toredig ac anniben yn gelfydd gan ddefnyddio ffôm sy’n ehangu. Rhoddwyd bywyd newydd iddyn nhw, a datblygodd eu personoliaethau wrth iddyn nhw gael eu paentio. Aeth y troseddwyr ati’n frwd i ymgymryd â’r gwaith o drawsnewid pentwr o goed yn dŷ chwarae lliwgar a deniadol i’r plant ei ddefnyddio.”
Bellach mae’r corachod yn croesawu ymwelwyr i’r ganolfan, ac yn destun sgwrs i’r plant a’u teuluoedd. Mae’r tŷ chwarae hefyd yn ganolbwynt y sylw yn yr ardd.
Aeth Alice yn ei blaen i ddweud:
“Fe wnaethom ofyn am help y gwasanaeth Prawf a’i ddisgwyl fel o’r blaen, ond mewn gwirionedd cawsom fwy o lawer. Roeddem yn teimlo bod y tasgau y gofynnwyd iddyn nhw eu cyflawni’n bwysig i’r timau fu’n gweithio ar y corachod. Oherwydd eu sylw i fanylion ar y ddau brosiect, mae’r hen offer segur yma bellach yn ddarnau sy’n bleser i’r llaw a’r llygad. Maen nhw wedi paentio darluniau â llaw tu mewn a thu allan i’r tŷ chwarae, a gwneud gwaith manwl a chywrain ar y corachod. Mae’r plant yn gwerthfawrogi’r cymorth a roddwyd ac mae’r tŷ chwarae yn un o’u hoff lefydd i dreulio amser.”
Mae Ymddiriedolaeth Prawf Cymru’n awyddus i gymunedau enwebu prosiectau a fyddai’n elwa o’r help y gall ad-dalu cymuned ei ddarparu ac mae’n croesawu awgrymiadau, y gellir eu cyflwyno ar wefan yr Ymddiriedolaeth:



