Amdanom Ni

Amdanom Ni

Yng Nghymru a dros Gymru

Roedd Deddf Rheoli Troseddwyr 2007 yn rhoi cyfle i’r pedair Ardal/Ymddiriedolaeth Brawf a arferai fodoli yng Nghymru ffurfio Ymddiriedolaeth Prawf Cymru. Yn ogystal, mae’r ddeddf yn diffinio’r gwasanaeth prawf fel hyn:
  • Amddiffyn y cyhoedd
  • Lleihau aildroseddu
  • Cosbi troseddwyr yn iawn
  • Sicrhau bod troseddwyr yn ymwybodol o effeithiau trosedd ar ddioddefwyr y drosedd a’r cyhoedd
  • Ailsefydlu troseddwyr.

Mae amryw o bobl a ddyfernir yn euog o droseddau yng Nghymru a Lloegr yn cyflawni eu dedfrydau yn y gymuned ac mae rhwymedigaeth statudol ar y gwasanaeth Prawf i oruchwylio’r troseddwyr yma a sicrhau eu bod yn cwblhau eu cosb o fewn y cyfnodau a bennwyd gan y llysoedd. Rydym hefyd yn goruchwylio troseddwyr sy’n cael eu rhyddhau o’r carchar fel eu bod yn ailsefydlu’n effeithiol yn y gymuned.